Mae brodyr i mi aeth o'r blaen, Yn holl-iach a chyttūn; Deng mīl o filoedd yw eu cān, Er hyn nid y'nt ond un. Mae pawb o'r brodyr yno'n un, Heb neb yn tynnu'n groes; Yn moli'r Duwdod yn y dyn, A chofio'i angau loes. Ni welir yno un rhyw boen Na neb yn achwyn clwy; Ond pawb mewn hwyl yn moli'r Oen, I drag'wyddoldeb mwy. Ymhlith y rhai'n caiff f'enaid gwan, Heb gystudd, gwae, na phoen; Ynghyd a'r dyrfa faith ddi ri', Dweud "Teilwng ydyw'r Oen."Dafydd Morris 1744-91 Diferion y Cyssegr 1804 1,2,3,4,5,6,7,8,9,10; 1,2,4,(7,(8,(9,10))); 1,2,4,7,9,10; 1,2,4,8. Mae brodyr i mi aeth y'mlaen Yn holl-iach a chyttun; Deng mil o filoedd yw eu cān, Er hyn nid yw ond un. Mae pawb o'r brodyr yno'n un, Heb neb yn tynnu'n groes; Yn moli'r Duwdod yn y dyn, A chofio angau loes. Ceir gweled gweddi f'Arglwydd mān, A'i eiriau oll ar ben; A phawb yn foddlon i'w eu 'stad, A'i alwad uwch y llen. Ni theimlir yno unrhyw boen, Na chwyno gan un clwy', Ond pawb mewn hwyl yn moli'r Oen, I drag'wyddoldeb mwy. Bydd yr holl lestri yno'n llawn, O olew, gras, a hedd; Heb brinder arnynt fore a nawn, Nac ofn colli ei wedd. Cymmylau duon ffoant ffwrdd, Terfysgoedd o bob rhyw; Holl nwydau nattur, hyll eu twrdd, A'n ddim yngwydd fy Nuw. Daw'r holl dduwiolion yno ynghyd, O'r gogledd, de, heb ri', A'u holl gadwynau'n chwilfriw mān, A'u cān am Galfari. Caiff f'enaid inau, cyn bo hir, Heb ofid, dur, na phoen, Yn nghyda'r dorf ddyrchafu llef, Mai "Teilwng ydyw'r Oen." Plant ydym etto dan ein hoed Yn disgwyl am y stād, Mae'r etifeddiaeth i ni'n d'od, Wrth destament ein Tad. N'ād fi foddloni mewn rhyw rith O grefydd heb ei grym, Ond gwir adnabod Iesu Grist Yn fywyd anwyl im'. Mae pawb o'r brodyr :: Fydd pawb o'r brodyr yno ynghyd :: yno 'nghyd :: yno'n nghyd N'ād fi foddloni :: Na'd fi foddloni
1-8,10: Dafydd Morris 1744-91
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
I have brothers who have gone ahead, Made whole and in agreement; Ten thousand thousand are their songs, And yet they are only one. All of the brothers there are as one, Without any being contrary; Praising the Godhead in the man, And remembering his throes of death. No pain is to be seen there Nor any complaining of a wound; But all in mirth praising the Lamb, For eternity evermore. Among those my weak soul may get, Without affliction, woe or pain; Together with the vast unnumbered throng, To say "Worthy is the Lamb." I have brothers who have gone ahead Made whole and in agreement; A thousand thousand are their songs, And yet still but one. All of the brothers there are as one, Without any being contrary; Praising the Divine in the man, And remembering a fatal pang. My Lord's prayer is to be seen, With all its words fulfilled; And everyone satisfied with his estate, And his call above the curtain. There is not to be felt there any pain, Or complaint from any wound, But all in mirth praising the Lamb, For eternity evermore. All the vessels there shall be full, Of oil, grace, and peace; Without scarcity morning or afternoon, Nor fear of losing one's countenance. Black clouds flee away, Tumults of every kind; All the lusts of nature, ugly their blustering, Going to nothing in the sight of my God. All the godly will come together, From the north, south, without number, with all their chains smashed to bits, And their song about Calvary. My own soul will get, before long, Without fear, blow, or pain, Together with the multitude raise a cry, That "Worthy is the Lamb." Children are we still under our age, Waiting for the state; The inheritance is coming to us According to our Father's testament. Let me not be satisfied with any kind of pretence Of faith without its force, But recognize Jesus Christ As my dear life. All of the brothers are :: All of the brothers will be :: :: :: tr. 2010,19 Richard B Gillion |
We are but children under age, With patience waiting still For that eternal heritage, Giv'n in our Father's will.
tr. <1897 William Edwards 1848-1929
|